Croeso i Langollen Fechan, Llangollen, Gogledd Cymru
Ashley Davies
Teitl swydd rheolwr cofrestredig
Ymunodd 2019
Rwyf wedi bod yn gweithio yn y sector gofal oedolion ers dros ugain mlynedd, gan ddechrau fel cynorthwyydd gofal yn 16 oed; ymunais â Roberts Homes yn 2019 a daethum yn Rheolwr Cofrestredig y gwasanaeth hwn yn 2023.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi ennill llawer iawn o wybodaeth a hyfforddiant, gan gynnwys NVQ Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Rwy'n hyrwyddo safon uchel o ofal o fewn fy ngwasanaeth, ac rwy'n cymryd rhan weithredol wrth gefnogi fy nhîm o staff i ddarparu'r gofal gorau posibl.
Rwyf wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant ar ddementia, sydd wedi fy galluogi i ddeall y cyflwr a gwybod sut i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i unigolion sydd wedi cael diagnosis o unrhyw fath o ddementia.
Cartref gofal a adeiladwyd at y diben hwn yw hwn, sy'n cynnig gofal arbenigol ar gyfer dementia. Rydym wedi creu cartref diogel a hapus sydd wedi'i addurno'n chwaethus drwyddo, er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig amgylchedd cynnes a chartrefol, sydd hefyd yn ysgogol.
Rwy'n mwynhau gweithio i gwmni sydd nid yn unig wedi ymrwymo i ansawdd y gofal rydym yn ei ddarparu, ond sydd hefyd yn cefnogi'r holl weithwyr.
Mae gen i dîm cryf sy'n fy nghefnogi yn ddyddiol; mae hyn yn rhoi'r gallu i mi dreulio amser gyda theuluoedd a allai fod â chwestiynau neu bryderon wrth ddewis cartref newydd i'w hanwylyd.
Mae ein drws bob amser ar agor os hoffech ddod i gwrdd â'n tîm.
Teitl y Swydd: Dirprwy Reolwr
Ymunodd: 2018
Rwyf wedi gweithio yn y sector gofal ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hon yn ddiwydiant rwy'n falch o fod yn rhan ohono. Rwyf wedi gweithio mewn nifer o gartrefi gofal blaenorol, yn ogystal â darparu cymorth gofal yn y gymuned.
Dechreuais weithio i Roberts Homes yn 2018, lle’r oeddwn yn gweithio fel uwch-gynorthwyydd gofal. Yn ddiweddarach, yn 2021, es i gam yn uwch i swydd dirprwy reolwr. Ers dechrau yn fy rôl newydd, rwyf wedi gallu ennill mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o reoliadau a chydymffurfiaeth – rhywbeth rwy’n ei fwynhau.
Rwy'n bersonoliaeth fywiog a chariadus, ac nid oes dim byd rwy'n ei fwynhau mwy na threulio amser gyda'n preswylwyr a'u teuluoedd, gan wrando ar y straeon a'r hanesion sydd ganddynt i'w rhannu.
Rydym yn sicrhau bod y gofal a ddarparwn bob amser wrth wraidd ein cartref, ac rwy'n falch o fod yn rhan o dîm gwych.